Roger Williams
Wedi’e ei eni yng Ngwent a’i fagu yn Sir Gâr, astudiodd Roger Saesneg a Llenyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Warwick cyn dechrau ar ei yrfa fel awdur proffesiynol yn ysgrifennu dramâu cydnabyddedig ar gyfer sawl cwmni theatr, gan gynnwys y Sherman Theatre Company a Made in Wales Stage Company.
Ar ôl ysgrifennu’n helaeth i’r radio, ysgrifenodd Roger TALES FROM PEASURE BEACH ar gyfer BBC2, cyfres a dderbyniodd enwebiad yng nghategori y gyfres ddrama orau yn BAFTA 2001. Ers hynny mae Roger wedi ysgrifennu’n eang ar gyfer y sgrîn, gan gynnwys HOLLYOAKS, THE STORY OF TRACY BEAKER a CAERDYDD. Mae Roger wedi ennill gwobr yn yr Wŷl Cyfryngau Celtaidd am ei gyfres GWAITH/CARTREF ynghyd â dwy wobr BAFTA Cymru ar gyfer CAERDYDD (2010) a TIR (2015).
Roger oedd cadeirydd Undeb yr Ysgrifennwyr Prydain Fawr rhwng 2012-2015.