Lee Haven Jones
Ganed Lee yn Aberpennar. Graddiodd o Brifysgol Caerwysg gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Drama ac enillodd Ysgoloriaeth Cameron Mackintosh i astudio actio yn RADA.
Cyfarwyddodd ei brosiect sgrîn cyntaf yn 2009, a derbyn enwebiad yng nghategori Dogfen Gorau yr Wŷl Cyfryngau Celtaidd. Ers hynny mae Lee wedi cyfarwyddo sawl drama gan gynnwys 35 DIWRNOD, WIZARDS vs ALIENS, WATERLOO ROAD a CASUALTY. Yn 2013 enillodd wobr BAFTA Cymru am ei waith cyfarwyddo ar THE INDIAN DOCTOR.
Dangoswyd ei ffilm fer gyntaf, WANT IT, yng ngwŷl ffilm BFI Flare yn 2015 ac ers hynny mae’r ffilm wedi ymddangos ar y gylchdaith ryngwladol.
Mae Lee wedi gweithio fel actor ar lwyfan ac ar sgrîn gyda’r National Theatre, BBC, S4C, National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr 59E59 yn Efrog Newydd a Clwyd Theatr Cymru.