11 munud
DU, 2015
Iaith: Saesneg
Ffilm fer a gyfarwyddwyd gan Lee Haven Jones
Ysgrifennwr: Roger Williams
Cyfarwywddwr ffotograffiaeth: Stuart Biddlecombe
Cast: James Cutler ac Alan Turkington
Mae lleidr yn torri i mewn i dŷ moethus. Ac yn dyheu amdano.
Wrth iddo sawru’r awyrgylch estron mae ei synhwyrau yn cael eu cyffroi. Pan ddaw’r perchennog yn ôl yn ddi-rybudd, daw tro ar fyd a chanfu’r lleidr ei hun yn noeth ac yn ddi-rym. Ffilm fer am nwyd, serch a dyhead yn ei amryw ffyrdd.
Ysgrif am ryw, grym a charwriaeth, yn y bôn mae WANT IT yn sôn am y gemau ‘ry’n ni’n eu chwarae – y gemau sydd yn ein cynnal ac yn ein chwalu.
Dangoswyd WANT IT gyntaf yng ngwyl ffilm BFI Flare yn 2015 ac ers hynny mae’r ffilm wedi ymddangos mewn gwyliau byd eang, gan gynnwys Athens (Ohio), Copenhagen, Montreal, Athens, Paris a San Diego, ymysg eraill.
"A highly sensorial experience, elegantly filmed and charged with the intriguing allure of imagining what lies beneath a stranger’s life”
Francisco Cerniglia
FilmDoo.com