3 x 48 munud
DU, 2015
Cyfarwyddwr: Lee Haven Jones
Ysgrifennwr: Roger Williams
Cast: Siôn Ifan, Rhian Morgan, Catherine Ayres, Gwydion Rhys, Lucy Hannah, Gwawr Loader, Ryland Teifi, Siôn Pritchard a Dewi Rhys Williams
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Stuart Biddlecombe
Iaith: Cymraeg


Cyfres a ddaeth i’r brig yng ngwobrau BAFTA Cymru, mae Tir yn ddrama sydd yn olrhain ymgais un dyn i ddal ei dir ac aros yn ei gynefin.
Mae newid ar droed yng nghefn gwlad Cymru. Gyda phrisau tai yn cynyddu a swyddi da yn cael eu colli, mae Arwel yn gorfod gweithredu’n eithafol er mwyn ceisio prynu ty i’w gariad a’i blant. Ond yn ei ymdrech i wireddu ei freuddwyd mae bywyd yn troi’n hunllef ac Arwel yn bradychu ei deulu dedwydd.
Enillodd Tir wobr BAFTA Cymru am yr awdur gorau a chafodd enwebiad yn y categori Ffotograffiaeth.