Cyd-gynhyrchiad gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Actor: Delme Thomas
Ysgrifennwr: Roger Williams
Cyfarwyddwr: Kate Wasserburg
Cynllunydd: Zakk Hein
Cerddoriaeth: Talbott/Ashfield
Trêl: Aaron J. Cooper
Taith: Tachwedd-Rhagfyr 2015, Haf 2016
Iaith: Saesneg
Taith ar garlam gwyllt trwy’r bywyd dinesig a geir yn dilyn dyn hoyw, Lee, wrth iddo golli un cariad a thyngu llw na fydd yn caru byth eto.
O’i amgylch mae pawb yn diota’n ddi-baid, yn dawnsio’n ddigyfaddawd ac yn dathlu’n dragywydd.
Ond pan gaiff Lee wahoddiad i fynychu parti yn fflat newydd ei ffrind, mae ‘newid’ ar droed, ac ar ôl saith awr, potel o fodca a’r diafol yn ei ddychymyg, mae’n torri ei addewid ac yn cwympo i freichiau hync newydd.
Mae Saturday Night Forever yn dilyn Lee ar daith trwy chwalfa ei fywyd carwriaethol a chyfnod blaguro perthynas newydd. Am ychydig mae ei fywyd yn fêl i gyd, ond ar ôl pob nos Sadwrn tanbaid daw oerni bore dydd Sul – a’r sylweddoliad creulon bod bywyd yn beth brau iawn.