55 munud
DU, 2015
Cyfarwyddwr: Lee Haven Jones
Ysgrifennwr: Roger William
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Ryan Owen Eddleston
Cast: Elizabeth Fernandez Navarta
Ieithoedd: Sbaeneg a Chymraeg



Drama unigryw a ffilmiwyd ym Mhatagonia gyda chydweithrediad cymuned Gymraeg yr Ariannin.
Mae’r ffilm yn dilyn Elizabeth Fernandez Navarta – actor sydd ‘nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn ymddangos ar Pobol y Cwm – wrth iddi ddychwelyd adref I’r Ariannin yn ystod cyfnod dathlu sefydlu’r Wladfa.
Dychwel Elizabeth fel ‘seleb’, ond cyn pen dim fe elwir arni i fod yn llysgennad dros y gymuned Gymraeg.
Mae Elizabeth yn ymladd gyda’r hunaniath hon wrth iddi deithio o ddiffeithwch dywreiniol yr Ariannin i’r tiroedd ffrwythlon Cwm Hyfryd ar lethrau’r Andes.
Caiff ei dilyn gan arloeswraig o’r oes a fu mewn ffrog binc a bonet glas. Pwy yw’r fenyw a beth y mae hi’n ei gynrychioli? Ai dyma isymwybod Elizabeth yn ei thormentio ac yn galw arni i ddychwelyd adref?
Cynhyrchiad Joio ar gyfer S4C mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales gyda chefnogaeth Wales Arts International, Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru.
“Ffilm gelfydd a deallus… ymateb creadigol synhwyrus, gweledol ddychmygus a chwareus”
Sioned Williams
Barn Magazine 2015