8 x 60″
DU, 2017
Cast: Jacob Ifan, Catrin Stewart, Chris Riley, Nia Roberts, Jack Parry Jones, Suzanne Packer,Gareth Jewel, Kate Jarman & Sara Lloyd
Crëwr ac Awdur: Roger Williams
Cynhyrchydd: Catrin Lewis Defis
Cyfarwyddwyr: Philip John & Ashley Way
Camera: Graham Frake & Mark Milsome
Golygyddion: Dafydd Hunt & Mali Evans
Cynllunydd: Jason Carlin
Gwisgoedd: Zoe Howerska
Colur: Nel Batt
Uwch gynhyrchwyr: Gub Neal, Patrick Irwin, Justin Thomson, Lee Haven Jones, Gwawr Martha Lloyd & Roger Williams
Ieithoedd: Cymraeg & Saesneg
Lluniau: Sven Arnstein
Hanes brawd, chwaer a gwn yw Bang.
Mae bywyd dyn tawel o’r enw Sam yn cael ei drawsnewid pan mae’n dod ar draws gwn ac yn dechrau torri’r gyfraith. Gweithia’i chwaer Gina i’r heddlu ac mae’n benderfynol o ddod o hyd i berchennog y dryll. Mae’r saga teuluol hwn yn datblygu tra bod yr heddlu yn ceisio darganfod pwy laddodd dyn busnes lleol. Mae’r llofruddiaeth hon yn codi bwganod ac yn atgyfodi cwestiynau am farwolaeth tad Sam a Gina flynyddoedd yn ôl. Drama drosedd am waed, cariad a pherthnasau dynol wedi ei lleoli ym mhro dur Port Talbot.
Cyfres ar gyfer S4C yw Bang fydd yn cael ei gwerthu’n rhyngwladol gan Banijay International.
Cynhyrchiad Joio mewn cydweithrediad ag Artists Studio, cynhyrchwyr The Fall (BBC2). Mae’r cast yn cynnwys Jacob Ifan (Cuffs, Hinterland) a Catrin Stewart (Doctor Who, Stella). Cyfarwyddwyd gan Philip John (Downton Abbey) ac Ashley Way (Torchwood). Cynhyrchwyr y gyfres gan Catrin Lewis Defis (The Collection, Broadchurch).