Joio Joio
  • Hafan
  • Cyfle hyfforddi
  • Bang
  • Galesa
  • Saturday Night Forever
  • Tir
  • Want It
  • Pethau Bychain
  • Amdanom
    • Amdanom
    • Lee Haven Jones
    • Roger Williams
  • Cysylltu
  • Cymraeg
  • English
© Copyright 2026 Joio
  • Hafan
  • Cyfle hyfforddi
  • Bang
  • Galesa
  • Saturday Night Forever
  • Tir
  • Want It
  • Pethau Bychain
  • Amdanom
    • Amdanom
    • Lee Haven Jones
    • Roger Williams
  • Cysylltu
  • Cymraeg
  • English

Joio: Y Weledigaeth

Sefydlwyd Joio i gynhyrchu ffilm a theledu gwreiddiol  ‘Ry’n ni’n gwmni creadigol sydd yn arloesi ac yn cydweithio er mwyn gwireddu prosiectau i’r sgrîn.

Joio adrodd storïau cyfoes a chyffrous

Ein bwriad yw datblygu syniadau yn drwyadl a chynhyrchu gwaith o’r safon uchaf.

Joio teithio

‘Ry’n ni’n dyheu i’n gwaith cael ei weld gan drawsdoriad eang o bobl ac yn bwriadu sicrhau lle i’n gwaith ar blatfformau byd eang. ‘Ry’n ni’n ymdrechu i ddarganfod ffyrdd amgen a newydd o arddangos gwaith ac yn dymuno i’r prosiectau deithio yn rhyngwladol.

Joio arbrofi ac arloesi.

Ry’n ni’n gweithio gyda darlledwyr, dosbarthwyr ac asianteithiau ffilm, ond ‘ry’n ni hefyd â pherthynas strategol gyda sefydliadau megis National Theatre Wales a Wales Arts International sydd yn caniatau i ni greu gwaith arloesol a’i gyfleu mewn cyd-destunau anghonfensiynol.

Joio gweithio
Mwynhad sydd wrth wraidd ein gwaith fel cwmni. Nid yn unig ‘ry’n ni am i gynulleidfaoedd sawru ein gwaith, ond ‘ry’n ni hefyd am i’n cydweithwyr creadigol fwynhau’r profiad o gydweithio gyda ni. Ein uchelgais yw cefnogi a galluogi yr unigolion llawrhydd sydd yn cydweithio â ni i fod yn greadigol a chreu gwaith rhagorol heb ymyrraeth.
Derbyniodd Joio fuddsoddiad sylweddol wrth Ffilm Cymru Wales yn 2016 er mwyn datblygu prosiectau ffilm ar gyfer y sgrîn fawr. Yn ychwanegol, ‘ry’n ni hefyd yn datblygu nifer o ddramâu teledu ynghyd â sawl prosiect comedi. Datblygir y gwaith ar gyfer marchnadoedd a chynulleidfaoedd penodol ac anelir iddo fod yn arloesol ac yn drawiadol.

Tîm Joio

Lee Haven Jones

Actor / Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd

Lee Haven Jones

Roger Williams

Awdur / Cynhyrchydd

Roger Williams

copyright joio 2016
Original images shot by Stuart Biddlecombe, Rhys Cozens, Ryan Owen Eddleston & Warren Orchard.